Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (90)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.19 Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Canlyniadau Ymgynghoriad Cynnal Cymru Fyw (30 munud) Dogfen Ategol
|
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i “Adolygu Ardrethi Busnes Cymru: Cymell Twf” (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch (30 munud) |
6. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) (5 munud) NNDM5065 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r
Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012. |
7. Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (60 munud) NDM5070 Leighton Andrews (Rhondda) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru). Gosodwyd Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23 Ebrill 2012. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 12 Hydref 2012. Dogfennau
Ategol |
8. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (5 munud) NDM5071 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
|
9. Dadl ar y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol (60 munud) NDM5069 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, sy’n gwireddu ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 ac sy’n nodi dyheadau Llywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru sydd ar gael i’w fwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cael ei ddiogelu’n dda. Cafodd Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru ei hanfon drwy’r e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 16 Hydref 2012. Mae’r Rhaglen Lywodraethu ar gael drwy’r linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/?skip=1&lang=cy Mewnosod fel pwynt 1 newydd: Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) TYNNWYD YN ôL Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog i gydnabod mai’r ffordd orau y gall Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i strategaeth yw drwy aros yn annibynnol. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog i ystyried y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â CADW yn mynd yn fwy annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 24 Hydref 2012